Trawsnewid rhywedd
Trawsrywedd |
---|
Hunaniaethau |
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd |
Pynciau |
Cwestiynu · Trawsrywioldeb |
Agweddau clinigol a meddygol |
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol |
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol |
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 |
Rhestrau |
Pobl |
Categori |
Y broses o unigolyn trawsryweddol yn newid ei dull o fyw ac yn aml ei rhyw fiolegol er mwyn byw yn y rhywedd mae'n ei arddel yw trawsnewid rhywedd.[1]
Mae'r camau y bydd person trawsryweddol yn cymryd wrth drawsnewid yn amrywio o unigolyn i unigolyn. Fel arfer byddai'n cynnwys agweddau cymdeithasol, megis dweud wrth deulu a chyfeillion, gwisgo'n wahanol, a defnyddio cosmetigau neu roi'r gorau iddynt. Byddai'r mwyafrif o bobl sydd yn trawsnewid yn newid ei enw cyntaf. Gall trawsnewid gynnwys triniaethau meddygol, gan gynnwys cwnsela, seicotherapi, therapi hormonau a llawdriniaeth ailbennu rhyw, ac agweddau cyfreithiol fel newid enw a rhyw ar ddogfennau adnabod.[2]
Ffordd arall o ddisgrifio'r broses yw ailbennu rhywedd.[1][2] Yng Nghymru, Lloegr, a'r Alban, mae ailbennu rhywedd yn nodwedd sydd wedi'i diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar gyfer unigolion sydd yn bwriadu dilyn proses neu ran o broses i ailbennu rhywedd trwy newid nodweddion rhywedd ffisiolegol neu nodweddion eraill, neu ei fod eisoes wedi gwneud hynny. Nid oes rhaid i'r newidiadau fod yn driniaethau meddygol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Geirfa", Stonewall Cymru (18 Hydref 2016). Adalwyd ar 8 Mehefin 2017.
- ↑ 2.0 2.1 "Rhestr termau[dolen farw]", gwefan Dysfforia Rhywedd GIG Cymru. Adalwyd ar 16 Ebrill 2018.