Sant Gall
Gwedd
Sant Gall | |
---|---|
Ganwyd | 550 Iwerddon |
Bu farw | 16 Hydref 645 Arbon |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Galwedigaeth | cenhadwr, llenor, cyfansoddwr |
Swydd | abbot of St. Gallen Abbey |
Dydd gŵyl | 16 Hydref, 16 Hydref |
Sant o Iwerddon oedd Sant Gall, Gallen, neu Gallus (c. 550 - c. 646). Roedd yn ddisgybl i Sant Columbanus, ac aeth gydag ef ar ei daith efengylu i'r cyfandir. Pan aeth Columbanus ymlaen i'r Eidal yn 612, gorfodwyd Gall gan afiechyd i aros ar ôl yn y tiriogaethau sy'n awr yn ffurfio'r Swistir. Bu'n byw fel meudwy yn y goedwig i'r de-orllewin o'r Bodensee, ger tarddle Afon Steinach. Bu farw tua 646-650 yn Arbon, a dethlir ei ŵyl ar 16 Hydref.
Wedi iddo farw, adeiladwyd eglwys fechan, a ddatblygodd yn Abaty Sant Gall, a roddodd ei enw i ddinas St. Gallen. Ysgrifennwyd nifer o fucheddau iddo o'r 9g ymlaen.