Neidio i'r cynnwys

Pete Docter

Oddi ar Wicipedia
Pete Docter
Ganwyd9 Hydref 1968 Edit this on Wikidata
Bloomington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Minnesota
  • Sefydliad Celf California
  • Bloomington Kennedy High School
  • MacPhail Center for Music Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, animeiddiwr, actor llais, cynhyrchydd gweithredol, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Annie, Gwobr yr Academi am yr Animeiddiad Ffilm Gorau, Gwobr yr Academi am yr Animeiddiad Ffilm Gorau, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, Ffurf Hir Edit this on Wikidata
llofnod

Mae Peter Docter (ganed 10 Awst 1968) yn gyfarwyddwr ffilm o Bloomington, Minnesota, yr Unol Daleithiau. Mae'n fwyaf adnabyddus am gyfarwyddo'r ffilm Pixar, Monsters, Inc.. Graddiodd o Ysgol Uwchradd John F. Kennedy yn Bloomington. Mae ef hefyd yn gyn-aelod o'r Mentor Connection.

Cyn ymuno â Pixar, crëodd Pete Docter dri animeiddiad na wnaed ar gyfrifiadur, sef Next Door, Palm Springs, a Winter.

Mae Docter wedi bod yn rhan allweddol o nifer o weithiau mwyaf poblogaidd Stiwdios Pixar, gan gynnwys Toy Story, Toy Story 2, A Bugs Life a Monsters, Inc.. Cyfrannodd i'r ffilmiau animeiddiedig hyn fel yr awdur ar y cyd, a gweithiodd gyda phobl fel John Lasseter, Andrew Stanton a Joe Ranft. Darparodd y llais hefyd ar gyfer Mr. Incredible yn cartŵn byr "Mr. Incredible and Pals" a ryddhawyd ar y DVD The Incredibles. Derbyniodd yr holl ffilmiau hyn feirniadaethau clodwiw gan ennill gwobrau niferus.

Yn 2004, gofynnodd John Lasseter iddo gyfarwyddo'r fersiwn Saesneg o Howl's Moving Castle. Gwrthododd Lasseter y prosiect am ei fod yn rhy brysur yn creu'r ffilm Cars.

Yn fwyaf diweddar, cyfarwyddodd Docter Up, a ryddhawyd ar y 29ain o Fai, 2009.

Ffilmograffiaeth Pixar

[golygu | golygu cod]
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.