Marlen Haushofer
Marlen Haushofer | |
---|---|
Ganwyd | Marie Helene Frauendorfer 11 Ebrill 1920 Molln |
Bu farw | 21 Mawrth 1970 o canser yr esgyrn Fienna |
Dinasyddiaeth | Awstria |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, awdur plant, sgriptiwr, awdur ffuglen wyddonol |
Adnabyddus am | The Wall |
Arddull | feminist science fiction |
Gwobr/au | Austrian Promotional Prize for Literature |
Gwefan | http://marlenhaushofer.at |
Awdures o Awstria oedd Marlen Haushofer (11 Ebrill 1920 - 21 Mawrth 1970) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur plant, sgriptiwr ac awdur ffuglen wyddonol. Ei gwaith pwysicaf, mae'n debyg, yw'r nofel Die Wand (1963) a gyhoeddwyd yn Saesneg dan y teitl The Wall.[1]
Ganed Marie Helene Frauendorfer yn Molln, Awstria Uchaf a bu farw yn Fienna o ganser yr esgyrn; fe'i claddwyd yn Taborfriedhof. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Fienna a Phrifysgol Graz.[2][3][4][5][6]
Bywgraffiad byr
[golygu | golygu cod]Mynychodd ysgol breswyl Babyddol yn Linz, ac aeth ymlaen i astudio llenyddiaeth Almaeneg yn Vienna ac yn Graz. Ar ôl ei blynyddoedd academaidd, ymsefydlodd yn Steyr.
Ym 1941, priododd Manfred Haushofer, deintydd, a chawsant ddau fab, Christian a Manfred. Ysgarodd y ddau yn 1950, ac ailbriodi yn 1958.
Yr awdur
[golygu | golygu cod]Gan ennill gwobrau llenyddol mor gynnar â 1953, aeth Haushofer ati i gyhoeddi ei nofel gyntaf, Llond Llaw o Fywyd ym 1955. Yn 1956, enillodd Wobr Theodor-Körner am gyfraniadau a phrosiectau cynnar yn ymwneud â chelf a diwylliant. Yn 1958, cyhoeddwyd ei nofel Wir töten Stella ('Fe Laddwn Ni Stella).
Cafodd y Wall, a ystyrir ei gwaith gorau, ei gwblhau ym 1963. Ysgrifennwyd y nofel bedair gwaith mewn llaw-hir rhwng 1960 a 1963, ond bu'n rhaid aros tan 1968, ddwy flynedd cyn ei marwolaeth, i'w argraffu.
Dywedodd mewn llythyr:
“ | Mae popeth yn feichus iawn gan nad oes gennyf lawer o amser byth, ac yn bennaf oherwydd nad ydw i am i'r gwaith fod yn embaras i mi. Rhaid imi holi'n barhaus a yw'r hyn a ddywedaf am anifeiliaid a phlanhigion mewn gwirionedd yn gywir. Ni ellir bod yn or-fanwl ac yn rhy-gywir. Byddwn yn hapus iawn, yn wir, pe bawn i'n gallu ysgrifennu'r nofel hanner cystal a'r hyn yr wyf yn ei ddychmygu yn fy meddwl. | ” |
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- A Handful of Life (1955)
- We Murder Stella (1958, nofel fer)
- The Wall (1963)
- Terrible Faithfulness (1968, storiau byrion)
- Die Mansarde (1969)
- The Attic (1969)
- Nowhere Ending Sky (1966)
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Austrian Promotional Prize for Literature (1953, 1968) .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Marlen Haushofer Gwefan[dolen farw]. Argraffiad cyntaf: Sigbert Mohn Verlag, Gütersloh, 1963; cyflwynwyd iddi Arthur-Schnitzler-Preis yn 1963 am y nofel hon. Cafwyd argraffiad newydd (a chyhoeddwr newydd) yn 1968.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_153. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Mehefin 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen HAUSHOFER". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". "Marlen Haushofer". "Marlen Haushofer". "Marlen Haushofer".
- ↑ Dyddiad marw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Hydref 2015. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen HAUSHOFER". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". "Marlen Haushofer". "Marlen Haushofer". "Marlen Haushofer".