Neidio i'r cynnwys

Finegr

Oddi ar Wicipedia
Finegr gydag oregano a pherlysiau eraill i ychwanegu blas ato.

Hylif asidig ydy finegr (neu finag yn nhafodiaith y gogledd) a gynhyrchir drwy eplesu athanol. Ei brif gynhwysyn ydy asid ethanoig. Gall ddod mewn ffurf eitha gwan o rhwng 4 i 8 y cant o ran cyfaint. Mae ynddo hefyd asid tartarig ac asid sitrig ac eraill. Fe'i defnyddiwyd ers canrifoedd i roi blas ar fwyd diflas megis sglodion neu i biclo, ac mae'n rhan bwysig o goginio Ewropeaidd, Gorllewinol ac Asiaidd.

Daw'r gair o'r Hen Ffrangeg vin aigre sef gwin egr. Ystyr 'egr' yn Gymraeg ydy 'sur' (e.e. y llysieyn egroes). Mewn hen lawysgrif Cymraeg (Llawysgrif yr Hafod) sydd heddiw i'w weld yn Llyfrgell Rydd Caerdydd, ac sy'n dyddio nôl i 1400 ceir y defnydd cyntaf o'r gair yn y Gymraeg, "Os berwir kig drwy finegr..."

Chwiliwch am finegr
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am gyfwyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.