Neidio i'r cynnwys

Elfyn Llwyd

Oddi ar Wicipedia
Y Gwir Anrhydeddus
Elfyn Llwyd
Aelod Seneddol
dros Ddwyfor Meirionnydd
Meirionnydd Nant Conwy (1992-2010)
Yn ei swydd
9 Ebrill 1992 – 30 Mawrth 2015
Rhagflaenydd Dafydd Elis-Thomas
Olynydd Liz Saville-Roberts
Manylion personol
Ganwyd (1951-09-26) 26 Medi 1951 (73 oed)
Betws-y-Coed, Sir Gaernarfon
Cenedligrwydd Baner Cymru Cymru
Plaid wleidyddol Plaid Cymru
Gŵr neu wraig Eleri Llwyd[1]
Alma mater Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Gwaith Bargyfreithiwr
Gwefan Gwefan

Gwleidydd o Gymru yw Elfyn Llwyd (ganwyd Elfyn Hughes, 26 Medi 1951). Roedd yn Aelod Seneddol o 1992 i 2015, gan gynnwys bod yn aelod dros Ddwyfor Meirionnydd rhwng 2010 a 2015, ac yn arweinydd seneddol Plaid Cymru.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Llwyd ym Metws-y-Coed, Gwynedd a fe'i magwyd yn Llanrwst. Astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yna Prifysgol y Gyfraith Caer.[2]

Gweithiodd Llwyd fel cyfreithiwr ac yna bargyfreithiwr (galwyd i'r bar yn 1997) cyn cael ei ethol fel gwleidydd. Rhwng 1990 a 1991 roedd yn Lywydd Cymdeithas y Gyfraith Gwynedd.[2] Mae Llwyd yn briod a'r gantores werin Eleri Llwyd ac mae ganddynt ddau o blant[3] Mae ei ddiddordebau yn cynnwys magu colomennod, darllen, teithio a rygbi.[3]

Yn Rhagfyr 2013, ymddangosodd Llwyd ar rifyn Nadolig arbennig University Challenge ar BBC Two yn cynrychioli Prifysgol Aberystwyth.[4]

Fe’i apwyntiwyd yn aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Gyfunol yn 2011. Yn Chwefror 2019, fe'i benodwyd yn Gwnsler Cyffredinol cysgodol gan Adam Price, arweinydd Plaid Cymru. Gyda hyn roedd yn ymuno â aelodau Cynulliad y Blaid fel aelod o’r cabinet cysgodol.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://www.telegraph.co.uk/culture/3641431/A-quiet-life-on-the-fringes-of-power.html
  2. 2.0 2.1 "Elfyn Llwyd: Electoral history and profile". The Guardian (yn Saesneg).
  3. 3.0 3.1 "Plaid Cymru website". 23 Medi 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 October 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "Episode 3: Christmas 2013". bbc.co.uk. 23 December 2013. Cyrchwyd 23 December 2013.
  5.  Penodi Elfyn Llwyd yn gwnsler cyffredinol cysgodol. Plaid Cymru (19 Chwefror 2019).

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Dafydd Elis-Thomas
Aelod Seneddol dros Feirionnydd Nant Conwy
19922010
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd
20102015
Olynydd:
Liz Saville-Roberts