Cleopatra
Cleopatra | |
---|---|
Ganwyd | c. 13 Ionawr 69 CC Alexandria |
Bu farw | 12 Awst 30 CC o gwenwyniad Alexandria |
Dinasyddiaeth | Ptolemaic Kingdom |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines, teyrn |
Swydd | Pharo |
Tad | Ptolemi XII Auletes |
Mam | Unknown, Cleopatra V of Egypt |
Priod | Ptolemi XIII Theos Philopator, Ptolemi XIV, Marcus Antonius |
Partner | Gnaeus Pompeius, Iŵl Cesar |
Plant | Caesarion, Cleopatra Selene II, Alexander Helios, Ptolemi Philadelphws |
Llinach | Brenhinllin y Ptolemïaid |
- Mae hon yn erthygl am y frenhines adnabyddus o'r Hen Aifft. Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Cleopatra (gwahaniaethu).
Cleopatra Filopator Nea Thea, Cleopatra VII, mewn Groeg: Κλεοπάτρα Φιλοπάτωρ, (69 CC - 30 CC) oedd brenhines olaf yr Aifft o'r olaf o dŷ brenhinol y Ptolemiaid, a sefydlwyd gan Ptolemi I Sóter, un o gadfridogion Alecsander Fawr.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Roedd yn ferch i Cleopatra V Trifena a Ptolemi XII Auletes, a daeth yn frenhines yn 51 CC, yn 17 oed, ar y cyd a'i brawd (a ddaeth hefyd yn ŵr iddi) Ptolemi XIII, a oedd yn 12 oed ar y pryd. Teulu Groegaidd oedd y Ptolemiaid, a dywedir mai Cleopatra oedd y gyntaf o'i llinach i fedru Eiffteg.
Wedi teyrnasu am dair blynedd, gyrrodd Ptolemi ei chwaer o'r orsedd ar gyngor Pothinus ac Achillas, ac alltudiwyd hi i Syria. Ceisiodd Cleopatra adennill yr orsedd, ond ni lwyddodd nes i Iŵl Cesar gyrraedd dinas Alexandria yn 48 CC. Flwyddyn yn ddiweddarach lladdwyd Ptolemi wrth ymladd yn erbyn milwyr Cesar, a daeth Cleopatra yn frenhines. Priododd a brawd arall, 12 oed ar y pryd, a ddaeth yn Ptolemi XIV. Yn yr ymladd llosgwyd rhan fawr o Alexandria, yn cynnwys y llyfrgell enwog.
Pan ddychwelodd Cesar i Rufain, dilynodd Cleopatra ef yno, a bu'n byw gydag ef yno. Ganwyd mab iddynt, a enwyd yn Cesarion. Yn 44 CC llofruddiwyd Cesar, a dychwelodd Cleopatra a'i mab i'r Aifft. Dilynwyd llofruddiaeth Cesar gan ryfel cartref, gyda Marcus Antonius yn arwain pleidwyr Cesar yn erbyn y gweriniaethwyr oedd wedi bod a rhan yn ei lofruddio. Gofynnodd Antonius am gymorth gan Cleopatra, ond gwrthododd hi ymyrryd. Teithiodd Antonius i'r Aifft i'w chyfarfod yn 41 CC, a syrthiodd y ddau mewn cariad. Penderfynodd Antonius aros yn yr Aifft am gyfnod, nes iddo gael ei orfodi i ddychwelyd i Rufain. Yn fuan wedyn ganwyd dau efaill i Cleopatra, Cleopatra Selene ac Alecsander Helios. Yn 36 CC teithiodd Antonius i'r dwyrain i ymladd yn erbyn y Parthiaid. Aeth Cleopatra gydag ef, a ganwyd eu trydydd plentyn, Ptolemi Filadelfos. Bu'r ymgyrch yn llwyddiant mawr, a dychwelodd y ddau i Alexandria.
Roedd perthynas Marcus Antonius gydag Octavianus (a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach dan yr enw Augustus), ei frawd-yng-nghyfraith, wedi dirywio erbyn hyn, ac yn 32 CC aeth yn rhyfel rhwng Octavianus ac Antonius a Cleopatra. Ym Mrwydr Actium yn 31 CC gorchfygwyd llynges Cleopatra gan Octavianus, a lladdodd hi a Marcus Antonius eu hunain yn hytrach na chael eu cymryd i Rufain fel carcharorion.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- 216 Kleopatra, asteroid a enwir ar ôl Cleopatra.
Rhagflaenydd: Ptolemi XII |
Brenhines yr Aifft 51 CC – 30 CC gyda Ptolemi XII, Ptolemi XIII, Ptolemi XIV, a Ptolemi XV (Caesarion) |
Olynydd: – |