Neidio i'r cynnwys

Caergeiliog

Oddi ar Wicipedia
Caergeiliog
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2747°N 4.5345°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Pentref yng nghymuned Llanfair-yn-Neubwll, Ynys Môn, yw Caergeiliog[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yng ngogledd-orllewin yr ynys ar briffordd yr A5, ychydig i'r de-ddwyrain o'r Fali.

Hyd yn ddiweddar, roedd y drafnidiaeth i Gaergybi yn mynd trwy'r pentref, ond wedi adeiladu'r A55, sy'n mynd ychydig i'r gogledd o'r pentref, mae'n ddistawach. Yn y pentref, gellir gweld un o'r tri tolldy gwreiddiol sydd wedi eu cadw o'r rhai oedd ar yr A5; mae yn awr yn dŷ preifat.

Ychydig i'r de o'r pentref mae Llyn Dinam a gwarchodfa adar RSPB Gwlyptiroedd y Fali.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 12 Rhagfyr 2021
Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato