Bae Hudson
Gwedd
Math | inland sea, epicontinental sea |
---|---|
Enwyd ar ôl | Henry Hudson |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cefnfor yr Arctig |
Sir | Ontario, Québec, Manitoba, Nunavut |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 1,230,000 ±1 km² |
Cyfesurynnau | 60°N 85°W |
Aber | Hudson Strait |
Dalgylch | 3,861,400 ±1 cilometr sgwâr |
Bae mawr ar arfordir gogleddol Canada yw Bae Hudson (Saesneg: Hudson Bay, Ffrangeg: Baie d'Hudson). Fe'i amgylchynir gan daleithiau Québec, Ontario, Manitoba a Nunavut. Ystyrir ei fod yn rhan o Gefnfor yr Arctig.
Enwyd y bae ar ôl y fforiwr Seisnig Henry Hudson, a fu yma yn 1610, pan ddaliwyd ei long yn y rhew. Roedd y bae yn allweddol yn yr ymladd rhwng Ffrainc a Phrydain am reolaeth ar Canada yn ystod yn 17eg a'r 18g.
Mae'r bae tua 1,000 km o'r gorllewin i'r dwyrain a 700 km o'r gogledd i'r de, ond dim ond 125 medr o ddyfnder ar gyfartaledd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]