Academi Celfyddydau Prwsia
Enghraifft o'r canlynol | ysgol gelf |
---|---|
Daeth i ben | 1945 |
Dechrau/Sefydlu | 1694 |
Dechreuwyd | 1694 |
Olynwyd gan | Academi Celfyddydau'r GDR, Academy of Arts (West Berlin) |
Lleoliad yr archif | Archiv der Akademie der Künste |
Sylfaenydd | Ffredrig I, brenin Prwsia |
Olynydd | Academi Celfyddydau'r GDR |
Pencadlys | Berlin |
Gwladwriaeth | yr Almaen |
Academi celfyddydau ym Merlin oedd Academi Celfyddydau Prwsia (Almaeneg: Preußische Akademie der Künste). Fe'i sefydlwyd yn 1696 gan Ffredrig I tra oedd yn dal yn dywysog-etholydd a chyn iddo ddod yn frenin Prwsia.
Academi Celfyddydau Prwsia oedd y trydydd sefydliad hynaf o'i fath yn Ewrop, ar ôl Accademia dei Lincei yn Rhufain (1603) a'r Académie française ym Mharis (1635). Cafodd yr academi ddylanwad cryf ar y celfyddydau a'u datblygiad yn y byd Almaeneg ei iaith drwy gydol ei bodolaeth. Am gyfnod hir roedd hefyd yn gymdeithas artistiaid ac yn sefydliad hyfforddi. Dechreuodd Senedd yr Academi weithredu fel cyngor celfyddydau ar gyfer Prwsia o 1699 ymlaen.
Gollyngwyd "Prwsia" o enw'r academi yn 1945 a chafodd ei diddymu'n derfynol ym 1955 ar ôl sefydlu dwy academi ar wahân yn 1954 ar gyfer Dwyrain Berlin a Gorllewin Berlin. Unodd y ddwy academi hynny ym 1993 i ffurfio Academi Celfyddydau, Berlin (Almaeneg: Akademie der Künste).
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Hans Gerhard Hannesen, Die Akademie der Künste in Berlin: Facetten einer 300jährigen Geschichte. Akademie der Künste (Berlin, 2005)