Sgwrs Nodyn:Gwleidyddiaeth Cymru
Sylw diweddaraf: 16 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros ym mhwnc Delwedd wleidyddol?
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Delwedd wleidyddol?
golyguPam ydym ni yn dilyn y "Wicipedia Seisnig" trwy ddefnyddio'r ddelwedd "[English] Royal Badge of Wales" i gynrychioli gwleidyddiaeth Cymru? Ar ôl siecio ar "en" dwi'n gweld mai baner genedlaethol Lloegr sydd ganddyn nhw yn y nodyn am Wleidyddiaeth Lloegr. Dwi'n cynnig defnyddio baner genedlaethol Cymru yma. Oes gan rhywun arall farn am hyn? Anatiomaros 15:43, 2 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Banner Cymru amdani. Efallai bydd rhaid cynnig newid y ddelwedd ar y Wici Saesneg/Seisnig hefyd, er mwyn bod a chysnodeb â'r nodyn am wleidyddiaeth Lloegr. Loegr--Ben Bore 15:49, 2 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Yn ddelfrydol basai'n braf cael newid pethau ar "en" hefyd, ond dwi'n gwybod o brofiad mor anodd mae hynny'n gallu bod. Ar ôl siecio yr Alban a Gog Iwerddon, gwelaf mae map sydd 'na ar gyfer GI ond y bathodyn brenhinol ar gyfer yr Alban. Yn amlwg doedd y Gwyddelod sy'n cyfrannu i "en" ddim yn fodlon ar ddelwedd yn cynrychioli coron Prydain/Lloegr. Ond beth bynnag mae'r wici Saesneg yn penderfynu does dim rhaid i ni wneud yr unfath. Anatiomaros 15:54, 2 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Oes gan rywun arall farn am hyn? Dwi'n bwriadu newid y ddelwedd yn nes ymlaen os nad oes wrthwynebiad. Anatiomaros 18:44, 3 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Cewch manylion y bathodyn nawddoglyd hwn yma: en:Royal Badge of Wales. Cael ei greu ym Mai eleni fel arwyddlun swyddogol 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' (gyda chaniatâd a bendith Brenhines Lloegr). Wel, hyd yn oed os ydy'n cael ei ddefnyddio gan "Ein Llywodraeth Fach Ni" dydy o ddim yn addas i gynrychioli gwleidyddiaeth Cymru yn ei chrynswth. Ac mae'n ddatganiad gwleidyddol sy'n rhoi Cymru yn ei lle: symbol Cymru yn cael ei hamgylchynu gan symbolau gweddillion eraill yr Ymerodraeth a Choron Prydain/Lloegr yn ben arni, yn llythrennol. Dwi am roi baner Cymru yn ei le fory, os nad oes dadl yn erbyn hynny. Anatiomaros 22:58, 9 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Ydy, mae'n gywilydd o beth (yn enwedig os yw'r canlynol yn wir: "in 2007 the Presiding Officer of the National Assembly for Wales entered into discussions with the Prince of Wales and the College of Arms regarding a grant of arms for official use by the assembly."). On ta waeth am hynny, gan mai symbol(?) ar gyfer y Cynulliad ydy o i fod, tydy o ddim yn addas ar gyfer Gwleidyddiaeth Cymru yn ei gyfanrwydd yn sicr.--Ben Bore 08:44, 10 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Diolch am ymateb, Ben. Gan fod neb wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad dwi am newid hyn rwan. Efallai'n wir fod y "beth bynnag di o" (diolch yn fawr, Dafydd, Gwleidydd Cymreig y Flwyddyn 2008!) yn addas ar gyfer rhai o'r erthyglau am
Lywodraeth CymruLlywodraeth Brenhines Lloegr yng NghymruLywodraeth Cynulliad Cymru, ond yn sicr dydy o ddim yn addas i gynrychioli holl sbectrwm gwleidyddiaeth Cymru. Anatiomaros 16:01, 10 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Diolch am ymateb, Ben. Gan fod neb wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad dwi am newid hyn rwan. Efallai'n wir fod y "beth bynnag di o" (diolch yn fawr, Dafydd, Gwleidydd Cymreig y Flwyddyn 2008!) yn addas ar gyfer rhai o'r erthyglau am