Rygbi Caerdydd
Undeb | Undeb Rygbi Cymru | |
---|---|---|
Llysenw/au | Blue and Blacks Gleision | |
Sefydlwyd | 2003 2021 fel Rygbi Caerdydd | fel Gleision Caerdydd |
Lleoliad | Caerdydd, Cymru | |
Maes/ydd | Parc yr Arfau (Nifer fwyaf: 12,125) | |
Cadeirydd | Alun Jones[1] | |
Prif W. | Richard Holland[1] | |
Llywydd | Peter Thomas CBE[1] | |
Cyfarwyddwr Rygbi | Matt Sherratt[2] | |
Capten | Josh Turnbull | |
Mwyaf o gapiau | Taufa'ao Filise (255) [3] | |
Sgôr mwyaf | Ben Blair (1078) [4] | |
Mwyaf o geisiadau | Tom James (60) [5] | |
Cynghrair/au | Pencampwriaeth Rygbi Unedig | |
2021–22 | 3ydd, Tarian Cymru (14eg ar y cyfan) | |
| ||
Gwefan swyddogol | ||
cardiffrugby.wales |
Rhanbarthau Rygbi Cymru
Tîm rygbi sy'n chwarae yn y Gynghrair Geltaidd, y Pencampwriaeth Rygbi Unedig (a'r Cwpan Eingl-Gymreig gynt) yw Rygbi Caerdydd. Hyd at 2021, enw'r tîm oedd Gleision Caerdydd.[6]
Hanes y Rhanbarth
[golygu | golygu cod]Mae Rygbi Caerdydd yn un o'r bum rhanbarth gwreddiol yn hanes rygbi rhanbarthol Cymru. Nhw hefyd oedd un o'r ddau ranbarth nad oedd rhaid iddynt uno â chlwb arall pan ddaeth y rhanbarthau i fodolaeth yng Nghymru ym myd rygbi'r undeb.
Yn 2003, penderfynodd Undeb Rygbi Cymru newid lefel uchaf rygbi Cymru o naw clwb i bum rhanbarth, yn dilyn llwyddiant system debyg yn Iwerddon, Seland Newydd, Awstralia a De Affrica. Roedd hwn yn benderfyniad dadleuol ar y pryd, ac roedd llawer o'r cefnogwyr yn gwrthwynebu'r newidiadau. Gleision Caerdydd oedd y rhanbarth gyntaf i benderfynu ar enw. Lansiwyd y rhanbarth ar 6 Mehefin 2003 yng Ngwesty'r Hilton, Caerdydd. Gorffenodd y Gleision yn y 6ed safle yn y Gynghrair Geltaidd yn eu tymor cyntaf - y rhanbarth o Gymru a wnaeth waethaf.
Yn wreiddiol, dim ond dinas Caerdydd a Bro Morgannwg roedd y Gleision yn ei gynrychioli. Pan ddaeth rhanbarth y Rhyfelwyr Celtaidd i ben yn 2004 ar ôl un tymor, ehangwyd dalgylch y Gleision i gynrychioli Morgannwg gyfan a rhan o Bowys.
Ar ddechrau trydydd tymor y Gleision, nid oedd pethau'n ymddangos fel petaen nhw'n gwella, gyda'r tîm yn methu cyrraedd ail rownd Cwpan Heineken. Yn ystod y tymor, ymunodd Jonah Lomu gyda'r Gleision, ac er nad oedd mor gyflym na mor gryf ag oedd pan fu'n chwarae yng Nghwpan y Byd, ddeg mlynedd yn ddiweddarach, daeth llawer o gefnogwyr i'w weld. Yn ystod ail hanner y tymor, dechreuodd y rhanbarth gael canlyniadau da yn y Gynghrair Geltaidd, a nhw oedd y rhanbarth gryfaf o Gymru pan orffennon nhw yn y 4ydd safle.
Cartref
[golygu | golygu cod]Mae Rygbi Caerdydd yn chwarae ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd, drws nesaf i Stadiwm y Mileniwm. Mae'r fynedfa i Barc yr Arfau ar Stryd Westgate.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Board & Management". Cardiff Rugby.
- ↑ "Rygbi Caerdydd yn penodi Matt Sherratt yn brif hyfforddwr". Golwg360. 2023-08-03. Cyrchwyd 2023-08-03.
- ↑ "Cardiff Blues". cardiffblues.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 March 2019. Cyrchwyd 10 January 2019.
- ↑ www.uprisevsi.co.uk, upriseVSI. "Ben Blair". upriseVSI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-06-19. Cyrchwyd 2022-11-09.
- ↑ www.uprisevsi.co.uk, upriseVSI. "Tom James". upriseVSI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-06-19. Cyrchwyd 2022-11-09.
- ↑ "Introducing... Cardiff Rugby" (yn Saesneg). Rygbi Caerdydd. 1 Mawrth 2021. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2022.